Ymateb y Llywodraeth: Gorchymyn Cynlluniau Pensiwn a Chynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Diwygio) (Cymru) 2024

 

Pwynt Craffu Technegol 1:                     Mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod gwahaniaeth rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg o ran y cyfeiriad mewn cromfachau at bennawd Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992.  Mae’r testun Saesneg yn gywir, a dylai’r testun Cymraeg yn hytrach ddarllen “Cynllun Pensiwn y Dynion Tân” heb yr “1992” ar ei ôl. 

Gan mai’r cynllun penodol y cyfeirir ato yw’r un a nodir mewn Gorchymyn o 1992, ac y cyfeirir ato’n gyffredin fel “cynllun 1992”, neu rywbeth tebyg, nid ydym o’r farn bod unrhyw bosibilrwydd o wahaniaeth mewn effaith gyfreithiol rhwng y testun Saesneg a’r testun Cymraeg nac o ddryswch yn sgil y gwahaniaeth.

 

Pwynt Craffu Technegol 2:                     Mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod y diffiniad o “cyfnod cyfyngedig estynedig” (“extended limited period"), ym mharagraff 1(2)(a) o Atodlen 1 i’r Gorchymyn, yn dod o flaen y diffiniad o “cyfnod cyflogaeth arbennig” (“special employment period”) ac nad yw’r rhestr felly yn nhrefn yr wyddor yn llwyr.

Fodd bynnag, go brin y bydd darllenydd yn drysu ynghylch lleoliad priodol y mewnosodiadau.  Heblaw’r mater a nodir uchod, mae’r rhestr ym mharagraff 1(2)(a) fel arall yn nhrefn yr wyddor yn y testun Cymraeg; a chan gyfeirio at y testun Saesneg, byddai darllenydd yn gweld bod y rhestr gyfatebol yn y testun Saesneg hefyd yn nhrefn yr wyddor.  At hynny, mae’r rhestr o ddiffiniadau yn rheol 2(1) o Gynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) yn nhrefn yr wyddor yn y testun Cymraeg.  Rydym felly o’r farn ei bod yn gymharol glir y dylid mewnosod y diffiniadau newydd yn nhrefn yr wyddor.

 

Pwynt Craffu Technegol 3:                     Mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod testun darpariaethau Cymraeg a Saesneg rheol newydd 5C(7) (a fewnosodir gan baragraff 6(3) o Atodlen 1 i’r Gorchymyn) yn creu ystyron sy’n groes i'w gilydd.  Mae’r testun Saesneg a nodir yn gywir, a dylai’r testun Cymraeg cyfatebol ddarllen “Pan nad oes gan yr awdurdod gofnodion o dâl y person hwnnw am y cyfnod hwnnw...” (pwyslais wedi ei ychwanegu).

Bydd y testun Cymraeg yn cael ei ddiwygio fel sy’n briodol pan fo’r cyfle nesaf yn codi.

 

Pwynt Craffu Technegol 4:                     Mae Llywodraeth Cymru yn nodi y cyfeirir at “diffoddwr tân cymwys rheolaidd amser-cyflawn” (pwyslais wedi ei ychwanegu) ym mharagraff 6(3) o Atodlen 1 i’r Gorchymyn, yn rheol newydd 5C(8), ond mewn lleoedd eraill y defnyddir y term “diffoddwr tân rheolaidd”.

Mae’r term “diffoddwr tân rheolaidd” fel y’i diffinnir yng Nghynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) yn cwmpasu pobl sy’n cyfateb i’r disgrifiad hwnnw, ar unrhyw radd.  Bwriedir i “diffoddwr tân cymwys rheolaidd” gyfeirio at y radd “diffoddwr tân cymwys” a ddelir gan y sawl sy’n cyfateb i’r disgrifiad o “diffoddwr tân rheolaidd”.  Cyrhaeddir y radd “diffoddwr tân cymwys” pan fo diffoddwr tân dan hyfforddiant wedi cwblhau ei hyfforddiant rhagarweiniol ac wedi ennill lefel benodol o brofiad cychwynnol. Mae cyrraedd y radd honno hefyd yn rhoi’r hawl i ddiffoddwr tân gael cyfradd uwch o gyflog, a diben y ddarpariaeth hon yw ei gwneud yn ddiamau mai’r gyfradd honno o gyflog y dylid ei defnyddio i gyfrifo tâl pensiynadwy pan nad oes tystiolaeth bod cyfradd arall yn briodol.  Defnyddir y term “diffoddwr tân cymwys” gan bob Gwasanaeth Tân ac Achub yn y DU ac fe’i diffinnir yn y “Llyfr Llwyd” o delerau ac amodau safonol ar gyfer diffoddwyr tân y mae cyflogwyr ac undebau wedi cytuno arnynt ar lefel y DU.  Mewn cyferbyniad, gellid ystyried bod y term “diffoddwr tân” yn golygu unrhyw un sydd ar y radd honno (gan gynnwys hyfforddeion a’r sawl sy’n datblygu), neu unrhyw un a gyflogir yn y maes diffodd tân ar unrhyw radd, a byddai’r ddau ohonynt yn aneglur yn y cyd-destun hwn.

Rydym yn cydnabod y gallai fod wedi bod yn gliriach i’r ddarpariaeth gyfeirio at “dâl pensiynadwy diffoddwr tân rheolaidd amser-cyflawn ar radd diffoddwr tân cymwys a gyflogwyd mewn rôl debyg... (pwyslais wedi ei ychwanegu) fel bod cysondeb wrth ddefnyddio’r term “diffoddwr tân rheolaidd”.  O dan yr amgylchiadau hynny, ni fyddai angen diffinio “diffoddwr tân cymwys” gan fod y radd honno yn cael ei chymhwyso gan awdurdodau tân ac achub yng Nghymru yn gyffredinol.  Fodd bynnag, wrth ystyried y cynllun ehangach a’r term a ddeellir yn gyffredin am y radd “diffoddwr tân cymwys”, ystyriwn y byddai dehongliad rhesymol o’r ddarpariaeth hon yn ei ddarllen yn unol â’r bwriad a nodir yn y paragraff hwn.

 

Pwynt Craffu Technegol 5:                     Mae Llywodraeth Cymru yn nodi nad yw paragraff 7(4) na (7) o Atodlen 1 i’r Gorchymyn yn nodi’n benodol ba reol a gaiff ei diwygio.  Rydym yn cydnabod y gallai 7(4) a (7) yn lle hynny fod wedi bod yn 7(3)(d) a (6)(d), yn y drefn honno (ac felly dylai’r rhifo dilynol fod wedi bod yn wahanol).

Fodd bynnag, ystyriwn ei bod yn ddigon clir pa reolau y mae paragraff 7(4) a (7) yn eu diwygio wrth ddarllen y darpariaethau yn eu cyd-destun (rheol 16(5) a 18(8) yn y drefn honno).

 

Pwynt Craffu Technegol 6:                     Mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod gwahaniaeth rhwng testunau Cymraeg a Saesneg penawdau paragraff 1 o Atodlen 2 i’r Gorchymyn.  Mae’r cyfeiriad at “Part 1” yn y testun Saesneg yn gywir, a dylai’r cyfieithiad Cymraeg adlewyrchu hynny.

Bydd y testun Cymraeg yn cael ei ddiwygio fel sy’n briodol pan fo’r cyfle nesaf yn codi.

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 7:                           Mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod y disgrifiad o’r cynllun pensiwn a nodir yn Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân yn anghyson mewn nifer o leoedd yn y gwahanol destunau. Enw cywir y cynllun yw Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru).

Rydym yn cydnabod bod y cyfeiriadau at y cynllun hwnnw yn anghywir yn y Nodyn Esboniadol, ac y defnyddir term byrrach gwahanol yn nhroednodyn (1) ar dudalen 4 o’r Gorchymyn, ond nad yw’r cynllun wedi ei bennu’n anghywir fel arall yng nghorff y Gorchymyn.

Go brin y gallai hyn beri dryswch yn ein barn ni.